Beth yw Let’s Dance! (Dewch i Ddawnsio!)

Mae Let’s Dance! (Dewch i Ddawnsio!) yn ymgyrch genedlaethol a grëwyd i ysbrydoli pawb yn y DU i gofleidio dawns fel ffordd o wella eu hiechyd, cysylltu ag eraill, a chael hwyl!

Wedi’i sefydlu gan Angela Rippon CBE, cefnogir y fenter gan sefydliadau blaenllaw gan gynnwys y Gynghrair Chwaraeon a Hamdden, y GIG, a Parkinson’s UK.

Play

Beth yw'r Amcan?

Mae dawns yn fwy na symud yn unig, mae’n achub bywydau. Ein cenhadaeth yw ysbrydoli mwy o bobl i ddawnsio gyda’i gilydd, waeth beth fo’u hoedran, lefel ffitrwydd neu brofiad.

Y nod yw codi ymwybyddiaeth o fanteision dawns, ar gyfer eich iechyd meddwl a chorfforol a’i gwneud yn haws nag erioed i bobl ymuno a dod o hyd i weithgaredd dawns addas, gan ddod â phobl o bob cefndir ynghyd, i gysylltu trwy ddawns.

2 Mawrth yw diwrnod lansio swyddogol yr ymgyrch, ond rydym yn annog pawb i ddawnsio pryd bynnag y bydd yn gyfleus iddyn nhw—hyd yn oed os yw’n yfory, yr wythnos nesaf, neu pan fydd eich amserlen yn caniatáu hynny. Po fwyaf o bobl a fydd yn dawnsio, y gorau oll, does dim ots pryd ydyw!

Mae Let's Dance (Dewch i Ddawnsio) ar gyfer pawb!

Mae Let’s Dance! (Dewch i Ddawnsio!) wedi’i gynllunio ar gyfer pawb – o bob oedran, cefndir, a gallu! I wneud eich cynlluniau mor gynhwysol â phosibl, ystyriwch yr awgrymiadau canlynol.

Gyda ffocws ar gynwysoldeb, gallwn wneud Let’s Dance! (Dewch i Ddawnsio!) yn ddathliad y gall pawb ei fwynhau!

Mae Let’s Dance! (Dewch i Ddawnsio!) yn ymwneud â chreadigrwydd a hunanfynegiant, felly rydym yn eich annog i feddwl am eich syniadau unigryw eich hun! Boed yn berfformiad unigol, yn drefniant grŵp, neu hyd yn oed yn sesiwn dull rhydd, rydym am i gyfranogwyr ddawnsio ym mha bynnag ffordd sy’n teimlo’n iawn iddyn nhw. Gadewch i’ch dychymyg arwain y ffordd a chreu rhywbeth sy’n ystyrlon ac yn hwyl i chi a’ch cymuned!

Cymerwch Ran

Lleoliadau hygyrch

Dewiswch fannau sy’n hygyrch ac yn hawdd i bob aelod o’r gymuned eu cyrraedd.

Arddulliau dawns

Cynigiwch gymysgedd o arddulliau dawns i ddarparu ar gyfer gwahanol alluoedd a lefelau profiad, gan gynnwys opsiynau dawnsio ar eich eistedd.

Cyfranogiad hyblyg

Crëwch gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn gwahanol ffyrdd, boed fel dawnsiwr neu wyliwr, fel bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt.